148 Y mae fy llygaid yn effro yng ngwyliadwriaethau'r nos,i fyfyrio ar dy addewid.
149 Gwrando fy llef yn ôl dy gariad;O ARGLWYDD, yn ôl dy farnau adfywia fi.
150 Y mae fy erlidwyr dichellgar yn agosáu,ond y maent yn bell oddi wrth dy gyfraith.
151 Yr wyt ti yn agos, O ARGLWYDD,ac y mae dy holl orchmynion yn wirionedd.
152 Gwn erioed am dy farnedigaethau,i ti eu sefydlu am byth.
153 Edrych ar fy adfyd a gwared fi,oherwydd nid anghofiais dy gyfraith.
154 Amddiffyn fy achos ac achub fi;adfywia fi yn ôl dy addewid.