156 Mawr yw dy drugaredd, O ARGLWYDD;adfywia fi yn ôl dy farn.
157 Y mae fy erlidwyr a'm gelynion yn niferus,ond eto ni wyrais oddi wrth dy farnedigaethau.
158 Gwelais y rhai twyllodrus, a ffieiddiaisam nad ydynt yn cadw dy air.
159 Gwêl fel yr wyf yn caru dy ofynion;O ARGLWYDD, adfywia fi yn ôl dy gariad.
160 Hanfod dy air yw gwirionedd,ac y mae dy holl farnau cyfiawn yn dragwyddol.
161 Y mae tywysogion yn fy erlid yn ddiachos,ond dy air di yw arswyd fy nghalon.
162 Yr wyf yn llawenhau o achos dy addewid,fel un sy'n cael ysbail fawr.