165 Caiff y rhai sy'n caru dy gyfraith wir heddwch,ac nid oes dim yn peri iddynt faglu.
166 Yr wyf yn disgwyl am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD,ac yn ufuddhau i'th orchmynion.
167 Yr wyf yn cadw dy farnedigaethauac yn eu caru'n fawr.
168 Yr wyf yn ufudd i'th ofynion a'th farnedigaethau,oherwydd y mae fy holl ffyrdd o'th flaen.
169 Doed fy llef atat, O ARGLWYDD;rho imi ddeall yn ôl dy air.
170 Doed fy neisyfiad atat;gwared fi yn ôl dy addewid.
171 Bydd fy ngwefusau'n tywallt moliantam iti ddysgu i mi dy ddeddfau.