23 Er i dywysogion eistedd mewn cynllwyn yn f'erbyn,bydd dy was yn myfyrio ar dy ddeddfau;
24 y mae dy farnedigaethau'n hyfrydwch i mi,a hefyd yn gynghorwyr imi.
25 Y mae fy enaid yn glynu wrth y llwch;adfywia fi yn ôl dy air.
26 Adroddais am fy hynt ac atebaist fi;dysg i mi dy ddeddfau.
27 Gwna imi ddeall ffordd dy ofynion,ac fe fyfyriaf ar dy ryfeddodau.
28 Y mae fy enaid yn anniddig gan ofid,cryfha fi yn ôl dy air.
29 Gosod ffordd twyll ymhell oddi wrthyf,a rho imi ras dy gyfraith.