30 Dewisais ffordd ffyddlondeb,a gosod dy farnau o'm blaen.
31 Glynais wrth dy farnedigaethau.O ARGLWYDD, paid â'm cywilyddio.
32 Dilynaf ffordd dy orchmynion,oherwydd ehangaist fy neall.
33 O ARGLWYDD, dysg fi yn ffordd dy ddeddfau,ac o'i chadw fe gaf wobr.
34 Rho imi ddeall, er mwyn imi ufuddhau i'th gyfraitha'i chadw â'm holl galon;
35 gwna imi gerdded yn llwybr dy orchmynion,oherwydd yr wyf yn ymhyfrydu ynddo.
36 Tro fy nghalon at dy farnedigaethauyn hytrach nag at elw;