32 Dilynaf ffordd dy orchmynion,oherwydd ehangaist fy neall.
33 O ARGLWYDD, dysg fi yn ffordd dy ddeddfau,ac o'i chadw fe gaf wobr.
34 Rho imi ddeall, er mwyn imi ufuddhau i'th gyfraitha'i chadw â'm holl galon;
35 gwna imi gerdded yn llwybr dy orchmynion,oherwydd yr wyf yn ymhyfrydu ynddo.
36 Tro fy nghalon at dy farnedigaethauyn hytrach nag at elw;
37 tro ymaith fy llygaid rhag gweld gwagedd;adfywia fi â'th air.
38 Cyflawna i'th was yr addewida roddaist i'r rhai sy'n dy ofni.