39 Tro ymaith y gwaradwydd yr wyf yn ei ofni,oherwydd y mae dy farnau'n dda.
40 Yr wyf yn dyheu am dy ofynion;adfywia fi â'th gyfiawnder.
41 Pâr i'th gariad ddod ataf, O ARGLWYDD,a'th iachawdwriaeth yn ôl dy addewid;
42 yna rhoddaf ateb i'r rhai sy'n fy ngwatwar,oherwydd ymddiriedais yn dy air.
43 Paid â chymryd gair y gwirionedd o'm genau,oherwydd fe obeithiais yn dy farnau.
44 Cadwaf dy gyfraith bob amser,hyd byth bythoedd.
45 Rhodiaf oddi amgylch yn rhydd,oherwydd ceisiais dy ofynion.