45 Rhodiaf oddi amgylch yn rhydd,oherwydd ceisiais dy ofynion.
46 Siaradaf am dy farnedigaethau gerbron brenhinoedd,ac ni fydd arnaf gywilydd;
47 ymhyfrydaf yn dy orchmynionam fy mod yn eu caru.
48 Parchaf dy orchmynionam fy mod yn eu caru,a myfyriaf ar dy ddeddfau.
49 Cofia dy air i'th was,y gair y gwnaethost imi ymddiried ynddo.
50 Hyn fu fy nghysur mewn adfyd,fod dy addewid di yn fy adfywio.
51 Y mae'r trahaus yn fy ngwawdio o hyd,ond ni throis oddi wrth dy gyfraith.