2 Molaf yr ARGLWYDD tra byddaf byw,canaf fawl i'm Duw tra byddaf.
3 Peidiwch ag ymddiried mewn tywysogion,mewn unrhyw un na all waredu;
4 bydd ei anadl yn darfod ac yntau'n dychwelyd i'r ddaear,a'r diwrnod hwnnw derfydd am ei gynlluniau.
5 Gwyn ei fyd y sawl y mae Duw Jacob yn ei gynorthwyo,ac y mae ei obaith yn yr ARGLWYDD ei Dduw,
6 creawdwr nefoedd a daear a'r môr,a'r cyfan sydd ynddynt.Y mae ef yn cadw'n ffyddlon hyd byth,
7 ac yn gwneud barn â'r gorthrymedig;y mae'n rhoi bara i'r newynog.Y mae'r ARGLWYDD yn rhyddhau carcharorion;
8 y mae'r ARGLWYDD yn rhoi golwg i'r deillion,ac yn codi pawb sydd wedi eu darostwng;y mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai cyfiawn.