7 Dangos dy ffyddlondeb rhyfeddol,ti, sy'n gwaredu â'th ddeheulawy rhai sy'n llochesu ynot rhag eu gwrthwynebwyr.
8 Cadw fi fel cannwyll dy lygad,cuddia fi dan gysgod dy adenydd
9 rhag y drygionus sy'n fy nistrywio,y gelynion sydd yn eu gwanc yn f'amgylchu.
10 Maent wedi mygu tosturi,y mae eu genau'n llefaru balchder;
11 y maent ar fy sodlau ac ar gau amdanaf,wedi gosod eu bryd ar fy mwrw i'r llawr;
12 y maent fel llew yn barod i larpio,fel llew ifanc yn llechu yn ei guddfan.
13 Cyfod, ARGLWYDD, saf yn eu herbyn a'u bwrw i lawr!Â'th gleddyf gwared fy mywyd rhag y drygionus;