10 Marchogodd ar gerwb a hedfan,gwibiodd ar adenydd y gwynt.
11 Gosododd o'i amgylch dywyllwch yn guddfan,a chymylau duon yn orchudd.
12 O'r disgleirdeb o'i flaen daeth allan gymylau,a chenllysg a cherrig tân.
13 Taranodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd,a llefarodd llais y Goruchaf.
14 Bwriodd allan ei saethau yma ac acw,saethodd fellt a gwneud iddynt atsain.
15 Daeth gwaelodion y môr i'r golwg,a dinoethwyd sylfeini'r byd,oherwydd dy gerydd di, O ARGLWYDD,a chwythiad anadl dy ffroenau.
16 Ymestynnodd o'r uchelder a'm cymryd,tynnodd fi allan o'r dyfroedd cryfion.