4 Yr wyf yn byw yng nghanol llewod,rhai sy'n traflyncu pobl,a'u dannedd yn bicellau a saethau,a'u tafod yn gleddyf miniog.
5 Ymddyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw,a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear.
6 Y maent wedi gosod rhwyd i'm traed,ac wedi darostwng fy mywyd;y maent wedi cloddio pwll ar fy nghyfer,ond hwy eu hunain fydd yn syrthio iddo.Sela
7 Y mae fy nghalon yn gadarn, O Dduw,y mae fy nghalon yn gadarn;fe ganaf a rhoi mawl.
8 Deffro, fy enaid,deffro di, nabl a thelyn.Fe ddeffroaf ar doriad gwawr.
9 Rhof ddiolch i ti, O Arglwydd, ymysg y bobloedd,a chanmolaf di ymysg y cenhedloedd,
10 oherwydd y mae dy gariad yn ymestyn hyd y nefoedd,a'th wirionedd hyd y cymylau.