1 O Dduw, gwrthodaist ni a'n bylchu;buost yn ddicllon. Adfer ni!
2 Gwnaethost i'r ddaear grynu ac fe'i holltaist;trwsia ei rhwygiadau, oherwydd y mae'n gwegian.
3 Gwnaethost i'th bobl yfed peth chwerw,a rhoist inni win a'n gwna'n simsan.
4 Rhoist faner i'r rhai sy'n dy ofni,iddynt ffoi ati rhag y bwa.Sela