1 O Dduw, daeth y cenhedloedd i'th etifeddiaeth,a halogi dy deml sanctaidd,a gwneud Jerwsalem yn adfeilion.
2 Rhoesant gyrff dy weisionyn fwyd i adar yr awyr,a chnawd dy ffyddloniaid i'r bwystfilod.
3 Y maent wedi tywallt gwaed fel dŵro amgylch Jerwsalem,ac nid oes neb i'w claddu.
4 Aethom yn watwar i'n cymdogion,yn wawd a dirmyg i'r rhai o'n cwmpas.
5 Am ba hyd, ARGLWYDD? A fyddi'n ddig am byth?A yw dy eiddigedd i losgi fel tân?