2 Maddeuaist gamwedd dy bobl,a dileu eu holl bechod.Sela
3 Tynnaist dy holl ddigofaint yn ôl,a throi oddi wrth dy lid mawr.
4 Adfer ni eto, O Dduw ein hiachawdwriaeth,a rho heibio dy ddicter tuag atom.
5 A fyddi'n digio wrthym am byth,ac yn dal dig atom am genedlaethau?
6 Oni fyddi'n ein hadfywio eto,er mwyn i'th bobl lawenhau ynot?
7 Dangos i ni dy ffyddlondeb, O ARGLWYDD,a rho dy waredigaeth inni.
8 Bydded imi glywed yr hyn a lefara'r Arglwydd DDUW,oherwydd bydd yn cyhoeddi heddwchi'w bobl ac i'w ffyddloniaid,rhag iddynt droi drachefn at ffolineb.