8 O ARGLWYDD Dduw y lluoedd,pwy sydd nerthol fel tydi, O ARGLWYDD,gyda'th ffyddlondeb o'th amgylch?
9 Ti sy'n llywodraethu ymchwydd y môr;pan gyfyd ei donnau, yr wyt ti'n eu gostegu.
10 Ti a ddrylliodd Rahab yn gelain;gwasgeraist dy elynion â nerth dy fraich.
11 Eiddot ti yw'r nefoedd, a'r ddaear hefyd;ti a seiliodd y byd a'r cyfan sydd ynddo.
12 Ti a greodd ogledd a de;y mae Tabor a Hermon yn moliannu dy enw.
13 Y mae gennyt ti fraich nerthol;y mae dy law yn gref, dy ddeheulaw wedi ei chodi.
14 Cyfiawnder a barn yw sylfaen dy orsedd;y mae cariad a gwirionedd yn mynd o'th flaen.