1 Flwyddyn ar ôl i bobl Israel adael gwlad yr Aifft, ar ddiwrnod cyntaf yr ail fis, dyma'r ARGLWYDD yn siarad â Moses. Digwyddodd hyn yn y babell lle roedd Duw yn cyfarfod pobl, pan oedd pobl Israel yn anialwch Sinai. Dwedodd:
2 “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o holl bobl Israel. Dw i eisiau i ti restru enwau'r dynion i gyd –
3 pawb sydd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â'r fyddin. Ti ac Aaron sydd i drefnu hyn,
4 gyda help un dyn o bob llwyth sy'n arweinydd ar ei deulu estynedig.
5-15 “Dyma enwau'r dynion sydd i'ch helpu chi:Llwyth Arweinydd Reuben Elisur fab Shedeŵr Simeon Shelwmiel fab Swrishadai Jwda Nachshon fab Aminadab Issachar Nethanel fab Tswár Sabulon Eliab fab Chelon Yna meibion Joseff:Effraim Elishama fab Amihwd Manasse Gamaliel fab Pedatswr Wedyn,Benjamin Abidan fab Gideoni Dan Achieser fab Amishadai Asher Pagiel fab Ochran Gad Eliasaff fab Dewel Nafftali Achira fab Enan.”
16 Dyna'r arweinwyr gafodd eu dewis o bob llwyth, yn benaethiaid ar bobl Israel.