Numeri 27 BNET

Merched Seloffchad

1 Dyma ferched Seloffchad yn dod ymlaen. Roedd eu tad yn fab i Cheffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse – o glan Manasse fab Joseff. Enwau'r merched oedd Machla, Noa, Hogla, Milca a Tirtsa.

2 Dyma nhw'n dod a sefyll o flaen Moses ac Eleasar yr offeiriad, ac arweinwyr y bobl i gyd, wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.

3 “Buodd dad farw yn yr anialwch,” medden nhw. “Doedd e ddim yn un o'r rhai wnaeth wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD gyda Cora. Buodd e farw o achos ei bechod ei hun. Ond doedd ganddo fe ddim meibion.

4 Pam ddylai enw dad ddiflannu o hanes y teulu am fod ganddo ddim meibion? Rho dir i ni ei etifeddu gyda brodyr ein tad.”

5 Felly dyma Moses yn mynd â'r achos o flaen yr ARGLWYDD.

6 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

7 “Mae merched Seloffchad yn iawn. Rho dir iddyn nhw ei etifeddu gyda brodyr eu tad. Dylen nhw gael siâr eu tad o'r tir.

8 Felly rhaid i ti ddweud hyn wrth bobl Israel, ‘Os ydy dyn yn marw heb gael mab, rhaid i'r etifeddiaeth gael ei rhoi i'w ferch.

9 Os oes ganddo ddim merch chwaith, rhaid i'r etifeddiaeth fynd i'w frodyr.

10 Ac os oes ganddo ddim brodyr, mae'r etifeddiaeth i fynd i frodyr ei dad.

11 Ond os oes gan ei dad ddim brodyr chwaith, mae'r etifeddiaeth i gael ei rhoi i'r perthynas agosaf yn y teulu.’” Dyma fydd y drefn gyfreithiol yn Israel, yn union fel mae'r ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

Josua i olynu Moses

12 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dringa i ben mynyddoedd Afarîm, i ti weld y tir dw i'n ei roi i bobl Israel.

13 Ar ôl i ti gael ei weld, byddi di, fel Aaron dy frawd, yn marw,

14 am i'r ddau ohonoch chi wrthod gwneud beth ddwedais i yn anialwch Sin. Roedd y bobl wedi gwrthryfela, a dangos dim parch ata i wrth y dŵr,” (sef Ffynnon Meriba yn Cadesh yn anialwch Sin.)

15 Yna dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD:

16 “O ARGLWYDD, y Duw sy'n rhoi bywyd i bopeth byw, rhaid i ti benodi rhywun i arwain y bobl.

17 Rhaid cael rhywun i'w harwain nhw allan i ryfel, a dod â nhw adre wedyn, neu bydd pobl yr ARGLWYDD fel defaid heb fugail i ofalu amdanyn nhw!”

18-19 A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Dw i eisiau i ti gymryd Josua fab Nwn – dyn sydd â'r Ysbryd ynddo – a'i gomisiynu e i'r gwaith drwy osod dy law arno. Gwna hyn yn gyhoeddus o flaen Eleasar yr offeiriad a'r bobl i gyd.

20 Maen nhw i weld dy fod wedi trosglwyddo'r awdurdod sydd gen ti iddo fe, ac wedyn byddan nhw'n ufuddhau iddo.

21 Bydd yn mynd at Eleasar yr offeiriad pan fydd angen arweiniad arno, a bydd Eleasar yn defnyddio'r Wrim i ddarganfod beth mae'r ARGLWYDD eisiau – pryd i fynd allan i ymladd, a pryd i ddod yn ôl.”

22 Felly dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Dyma fe'n gwneud i Josua sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad a'r bobl i gyd.

23 Yna dyma fe'n ei gomisiynu i'r gwaith drwy osod ei ddwylo arno, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses am wneud.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36