Numeri 2 BNET

Trefn y Llwythau yn y gwersyll

1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron:

2 Rhaid i bobl Israel wersylla o gwmpas Pabell presenoldeb Duw (sef y Tabernacl), gan wynebu'r Tabernacl. Mae pawb i wersylla o dan fflag eu llwyth eu hunain.

3-9 Ar yr ochr ddwyreiniol bydd adrannau'r tri llwyth yma yn gwersylla dan eu fflag:Llwyth Arweinydd Nifer Jwda Nachshon fab Aminadab 74,600 Issachar Nethanel fab Tswár 54,400 Sabulon Eliab fab Chelon 57,400 Cyfanswm: 186,400 Y milwyr ar ochr Jwda o'r gwersyll fydd yn arwain y ffordd pan fydd pobl Israel yn symud.

10-16 I'r de bydd adrannau tri llwyth arall yn gwersylla dan eu fflag:Llwyth Arweinydd Nifer Reuben Elisur fab Shedeŵr 46,500 Simeon Shelwmiel fab Swrishadai 59,300 Gad Eliasaff fab Dewel 45,650 Cyfanswm: 151,450 Y milwyr yma ar ochr Reuben i'r gwersyll fydd yn ail i symud allan.

17 Wedyn bydd gwersyll y Lefiaid yn symud, gyda Pabell presenoldeb Duw. Nhw fydd yn y canol. Mae'r llwythau i gyd i symud allan mewn trefn, pob un ohonyn nhw dan ei fflag ei hun.

18-24 Ar yr ochr orllewinol bydd adrannau y tri llwyth nesaf yn gwersylla dan eu fflag:Llwyth Arweinydd Nifer Effraim Elishama fab Amihwd 40,500 Manasse Gamaliel fab Pedatswr 32,200 Benjamin Abidan fab Gideoni 35,400 Cyfanswm: 108,100 Y milwyr yma ar ochr Effraim i'r gwersyll fydd y trydydd i symud allan.

25-31 I'r gogledd bydd adrannau'r tri llwyth olaf yn gwersylla o dan eu fflag:Llwyth Arweinydd Nifer Dan Achieser fab Amishadai 62,700 Asher Pagiel fab Ochran 41,500 Nafftali Achira fab Enan 53,400 Cyfanswm: 157,600 Y milwyr yma ar ochr Dan i'r gwersyll fydd yn symud allan olaf. Bydd pob llwyth yn mynd dan ei fflag ei hun.

32 Dyma'r rhai gafodd eu cyfrif o Israel yn ôl eu llwythau. Cyfanswm y dynion yn yr adrannau i gyd ydy 603,550.

33 Doedd y Lefiaid ddim wedi cael eu cyfrif gyda gweddill pobl Israel. Dyna oedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn i Moses.

34 Felly dyma bobl Israel yn gwneud popeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrth Moses. Roedd pob llwyth a theulu yn gwersylla dan eu fflag eu hunain, ac yn symud gwersyll fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36