Numeri 20 BNET

Dŵr o'r graig

1 Dyma bobl Israel i gyd yn cyrraedd anialwch Sin. Roedd hyn yn y mis cyntaf, a dyma nhw'n aros yn Cadesh. Dyna lle buodd Miriam farw, a lle cafodd ei chladdu.

2 Doedd dim dŵr i'r bobl yno, a dyma nhw'n casglu at ei gilydd yn erbyn Moses ac Aaron.

3 A dyma nhw'n dechrau ffraeo gyda Moses: “Byddai lot gwell petaen ni wedi marw o flaen yr ARGLWYDD gyda'n brodyr!

4 Pam wyt ti wedi dod â phobl yr ARGLWYDD i'r anialwch yma? Er mwyn i ni a'n hanifeiliaid farw yma?

5 Pam wnest ti ddod â ni allan o'r Aifft i'r lle ofnadwy yma? Does dim cnydau'n tyfu yma, dim ffigys, gwinwydd na phomgranadau. Does dim hyd yn oed ddŵr i'w yfed!”

6 Dyma Moses ac Aaron yn mynd oddi wrth y bobl at y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. A dyma nhw'n plygu yno a'i hwynebau ar lawr. A dyma nhw'n gweld ysblander yr ARGLWYDD yno.

7 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

8 “Cymer dy ffon. Dw i eisiau i ti ac Aaron dy frawd gasglu'r bobl i gyd at ei gilydd. Yna, o flaen pawb, dw i eisiau i ti orchymyn i'r graig roi dŵr. Yna bydd dŵr yn tywallt o'r graig, a bydd y bobl a'r anifeiliaid yn cael yfed ohono.”

9 Felly dyma Moses yn cymryd y ffon o'r lle roedd yn cael ei chadw o flaen yr ARGLWYDD.

10 A dyma Moses ac Aaron yn galw'r bobl at ei gilydd o flaen y graig. Dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Gwrandwch, chi rebeliaid! Oes rhaid i ni ddod â dŵr allan o'r graig yma i chi?”

11 A dyma Moses yn codi ei law ac yn taro'r graig ddwywaith gyda'r ffon, a dyma'r dŵr yn llifo allan ohoni. Cafodd y bobl a'r anifeiliaid ddigonedd i'w yfed.

12 Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron, “Am eich bod chi ddim wedi trystio fi ddigon i ddangos i bobl Israel fy mod i'n wahanol, fyddwch chi ddim yn cael arwain y bobl yma i'r wlad dw i'n ei rhoi iddyn nhw.”

13 Cafodd y lle ei alw yn ‛Ffynnon Meriba‛, lle roedd y bobl wedi dadlau gyda'r ARGLWYDD, ac yntau wedi dangos iddyn nhw ei fod e i gael ei anrhydeddu, yn Dduw sanctaidd, gwahanol.

Brenin Edom yn gwrthod caniatâd i groesi ei dir

14 Dyma Moses yn anfon negeswyr o Cadesh at frenin Edom: “Neges oddi wrth dy berthnasau, pobl Israel: Ti'n gwybod mor galed mae pethau wedi bod arnon ni. Aeth ein hynafiaid i lawr i'r Aifft,

15 a buon ni'n byw yno am amser hir. Cawson ni'n cam-drin am genedlaethau gan yr Eifftiaid.

16 Ond yna dyma ni'n galw ar yr ARGLWYDD am help, a dyma fe'n gwrando arnon ni ac anfon angel i ddod â ni allan o'r Aifft. A bellach, dŷn ni yn Cadesh, sy'n dref ar y ffin gyda dy wlad di.

17 Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir? Wnawn ni ddim niwed i unrhyw gnydau na gwinllannoedd, na hyd yn oed yfed dŵr o unrhyw ffynnon. Byddwn ni'n aros ar Briffordd y Brenin yr holl ffordd, nes byddwn ni wedi croesi'r ffin yr ochr arall.”

18 Ond ateb brenin Edom oedd, “Na. Well i chi gadw allan o'r wlad yma, neu bydda i'n dod â byddin yn eich erbyn chi!”

19 A dyma bobl Israel yn dweud eto, “Byddwn ni'n cadw ar y briffordd. Os gwnawn ni neu'n hanifeiliaid yfed eich dŵr chi, gwnawn ni dalu amdano. Y cwbl dŷn ni'n ofyn amdano ydy'r hawl i groesi'r wlad ar droed.”

20 Ond dyma fe'n ateb eto, “Na, gewch chi ddim croesi.” A dyma fe'n anfon ei fyddin allan i'w rhwystro nhw – roedd hi'n fyddin fawr gref.

21 Felly am fod Edom wedi gwrthod gadael i Israel groesi eu ffiniau nhw, dyma bobl Israel yn troi'n ôl.

Aaron yn marw

22 Dyma nhw i gyd yn gadael Cadesh, ac yn teithio i Fynydd Hor.

23 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron pan oedden nhw wrth Fynydd Hor, ar ffin gwlad Edom:

24 “Mae'n bryd i Aaron fynd at ei hynafiaid – mae'n mynd i farw yma. Fydd e ddim yn cael mynd i mewn i'r wlad dw i wedi ei rhoi i bobl Israel am fod y ddau ohonoch chi wedi mynd yn groes i beth ddywedais i wrthoch chi wrth Ffynnon Meriba.

25 Dw i eisiau i ti gymryd Aaron a'i fab Eleasar i gopa mynydd Hor.

26 Yno dw i am i ti gymryd gwisgoedd offeiriadol Aaron, a gwisgo ei fab Eleasar gyda nhw. A bydd Aaron yn marw yna, ar y mynydd.”

27 Felly dyma Moses yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Roedd y bobl i gyd yn eu gwylio nhw yn mynd i fyny Mynydd Hor.

28 Wedyn dyma Moses yn cymryd gwisgoedd offeiriadol Aaron, ac yn gwisgo Eleasar gyda nhw. A dyma Aaron yn marw yno, ar ben y mynydd. Wedyn dyma Moses ac Eleasar yn mynd yn ôl i lawr.

29 Pan welodd y bobl fod Aaron wedi marw, dyma nhw i gyd yn galaru amdano am fis.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36