Numeri 36 BNET

Merched Seloffchad

1 Dyma arweinwyr clan Gilead (disgynyddion i Machir, mab Manasse fab Joseff), yn dod at Moses ac arweinwyr eraill Israel gyda cais.

2 “Dwedodd yr ARGLWYDD wrth ein meistr am ddefnyddio coelbren wrth rannu'r tir rhwng pobl Israel. Dwedodd hefyd y dylid rhoi tir ein brawd Seloffchad i'w ferched.

3 Ond petai un ohonyn nhw'n priodi dyn o lwyth arall, byddai eu tir nhw yn mynd i'r llwyth hwnnw, a byddai gynnon ni lai o dir.

4 A pan fydd hi'n flwyddyn y rhyddhau mawr bydd y tir yn aros yn nwylo'r llwyth maen nhw wedi priodi i mewn iddo – bydd yn cael ei dynnu oddi ar etifeddiaeth ein llwyth ni.”

5 Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses am roi'r rheol yma i bobl Israel: “Mae beth mae'r dynion o lwyth meibion Joseff yn ei ddweud yn iawn.

6 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei orchymyn sydd i ddigwydd gyda merched Seloffchad: Maen nhw'n rhydd i briodi pwy bynnag maen nhw eisiau o fewn eu llwyth eu hunain.

7 Wedyn fydd y tir mae pobl Israel wedi ei etifeddu ddim yn symud o un llwyth i'r llall – bydd pawb yn cadw'r tir wnaethon nhw ei etifeddu gan eu hynafiaid.

8 Rhaid i bob merch sydd wedi etifeddu tir gan ei hynafiaid, pa lwyth bynnag mae'n perthyn iddo, briodi rhywun o fewn ei llwyth ei hun. Wedyn bydd pawb yn Israel yn cadw'r tir maen nhw wedi ei etifeddu gan eu hynafiaid.

9 Dydy'r tir gafodd ei etifeddu ddim i basio o un llwyth i'r llall. Mae pob llwyth yn Israel i gadw'r tir gafodd ei roi iddo.”

10 A dyma ferched Seloffchad yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

11 Dyma nhw i gyd – Machla, Tirtsa, Hogla, Milca a Noa – yn priodi cefndryd ar ochr eu tad o'r teulu.

12 Dyma nhw'n priodi dynion oedd yn perthyn i lwyth Manasse fab Joseff, ac felly arhosodd y tir roedden nhw wedi ei etifeddu o fewn llwyth eu hynafiaid.

13 Dyma'r gorchmynion a'r rheolau wnaeth yr ARGLWYDD eu rhoi i bobl Israel drwy Moses ar wastatir Moab, wrth yr Afon Iorddonen gyferbyn â Jericho.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36