Numeri 4 BNET

Cyfrifoldebau'r Cohathiaid

1 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron:

2 “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o deuluoedd y Cohathiaid o lwyth Lefi

3 – pob un sy'n cael gweithio yn y Tabernacl (sef y dynion rhwng tri deg a phum deg oed).

4 Dyma gyfrifoldebau'r Cohathiaid dros bethau cysegredig y Tabernacl:

5 Pan mae'n amser i'r gwersyll symud yn ei flaen, rhaid i Aaron a'i feibion ddod i gymryd llen y sgrîn i lawr, a'i roi dros Arch y dystiolaeth.

6 Wedyn rhaid iddyn nhw roi gorchudd o grwyn môr-fuchod dros hwnnw, ac yna gosod lliain glas dros y cwbl. Gallan nhw wedyn roi'r polion i gario'r Arch yn eu lle.

7 “Wedyn maen nhw i roi lliain glas dros fwrdd yr ARGLWYDD, ac yna gosod arno y platiau a'r dysglau, y powlenni a'r jygiau sy'n cael eu defnyddio i dywallt yr offrwm o ddiod. Ac mae'r bara i aros arno bob amser.

8 Wedyn maen nhw i orchuddio'r cwbl gyda lliain coch, a rhoi gorchudd o grwyn môr-fuchod dros hwnnw wedyn. Yna gallan nhw roi'r polion i gario'r bwrdd yn eu lle.

9 “Nesaf, maen nhw i roi lliain glas dros y menora sy'n rhoi golau, a'i lampau, gefeiliau, padellau, a jariau o olew sy'n mynd gyda hi.

10 Yna rhaid iddyn nhw roi'r cwbl mewn gorchudd o grwyn môr-fuchod, a'i gosod ar bolyn i'w gario.

11 “Wedyn maen nhw i roi lliain glas dros yr allor aur, ac yna rhoi gorchudd o grwyn môr-fuchod dros hwnnw. Gallan nhw wedyn roi'r polion i gario'r allor yn eu lle.

12 “Wedyn rhaid iddyn nhw gymryd gweddill yr offer sy'n cael ei ddefnyddio yn y cysegr, a'u rhoi nhw mewn lliain glas. Rhoi gorchudd o grwyn môr-fuchod amdanyn nhw wedyn, a'i gosod ar bolyn i'w cario.

13 “Yna nesaf, rhaid iddyn nhw daflu'r lludw oedd ar yr allor, cyn rhoi lliain porffor drosti.

14 Yna gosod ei hoffer i gyd arni – y padellau, ffyrc, rhawiau, powlenni taenellu, a holl offer arall yr allor. Wedyn rhoi gorchudd o grwyn môr-fuchod dros y cwbl, a rhoi'r polion i'w chario yn eu lle.

15 “Pan fydd Aaron a'i feibion wedi gorffen gorchuddio'r cysegr a'r holl ddodrefn ac offer sydd ynddo, a'r gwersyll yn barod i symud, bydd y Cohathiaid yn dod i gario'r cwbl. Ond rhaid iddyn nhw beidio cyffwrdd unrhyw beth cysegredig, neu byddan nhw'n marw. Dyma gyfrifoldeb y Cohathiaid gyda'r Tabernacl.

16 “Mae Eleasar fab Aaron, yr offeiriad, i fod yn gyfrifol am yr olew ar gyfer y golau, yr arogldarth persawrus, y grawn ar gyfer yr offrwm dyddiol, a'r olew eneinio. Ond mae hefyd yn gyfrifol am y Tabernacl i gyd, a phopeth sydd ynddo, a'r cysegr a'i holl ddodrefn.”

17 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron:

18 “Peidiwch gadael i dylwythau'r Cohathiaid ddiflannu o blith y Lefiaid.

19 Er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw ddim yn marw wrth fynd yn agos at y pethau cysegredig, rhaid gwneud hyn: Rhaid i Aaron a'i feibion ddweud wrth bob dyn yn union beth ydy ei gyfrifoldeb e.

20 A rhaid i'r Cohathiaid beidio edrych ar y pethau cysegredig yn cael eu gorchuddio, neu byddan nhw'n marw.”

Cyfrifoldebau'r Gershoniaid

21 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

22 “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o deuluoedd y Gershoniaid hefyd

23 – pob un sy'n cael gweithio yn y Tabernacl (sef y dynion rhwng tri deg a phum deg oed).

24 Dyma gyfrifoldebau'r Gershoniaid, a'r gwaith maen nhw i'w gyflawni:

25 Nhw sydd i gario llenni'r Tabernacl a Pabell Presenoldeb Duw a'i gorchudd, y gorchudd o grwyn môr-fuchod, y sgrîn ar draws y fynedfa i'r iard,

26 y llenni o gwmpas yr iard, y sgrîn sydd o flaen y fynedfa i'r iard sydd o gwmpas y tabernacl a'r allor, a'r rhaffau, a phopeth arall sy'n gysylltiedig â'r rhain. Dyna'r gwaith maen nhw i'w wneud.

27 Aaron a'i feibion sydd i oruchwylio'r gwaith mae'r Gershoniaid yn ei wneud – beth sydd i'w gario, ac unrhyw beth arall sydd i'w wneud. Nhw sydd i ddweud yn union beth ydy cyfrifoldeb pawb.

28 Dyna gyfrifoldeb y Gershoniaid yn y Tabernacl. Byddan nhw'n atebol i Ithamar fab Aaron, yr offeiriad.

Cyfrifoldebau'r Merariaid

29 “Ac wedyn y Merariaid. Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o'u teuluoedd nhw

30 – pob un sy'n cael gweithio yn y Tabernacl (sef y dynion rhwng tri deg a phum deg oed).

31 Dyma beth maen nhw i fod i'w gario: fframiau'r Tabernacl, y croesfarrau, y polion a'r socedi.

32 Hefyd, polion yr iard i gyd, gyda'i socedi, pegiau a rhaffau, a phopeth arall i'w wneud â'r rhain. Rhaid dweud wrth bob dyn beth yn union mae e'n gyfrifol am ei gario.

33 Dyna waith y Merariaid – eu cyfrifoldeb nhw dros Babell Presenoldeb Duw. Maen nhw hefyd yn atebol i Ithamar fab Aaron, yr offeiriad.”

Canlyniadau'r Cyfrifiad

34-48 Felly dyma Moses ac Aaron a'r arweinwyr eraill yn cynnal cyfrifiad o deuluoedd y tri clan oedd yn perthyn i lwyth Lefi – y Cohathiaid, y Gershoniaid a'r Merariaid. Niferoedd y dynion rhwng tri deg a phum deg oed oedd yn cael gweithio yn y Tabernacl. A dyma'r canlyniad:Clan Nifer Cohathiaid 2,750 Gershoniaid 2,630 Merariaid 3,200 Cyfanswm: 8,580 Roedd Moses ac Aaron wedi eu cyfrif nhw i gyd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

49 Roedd gan bob un ohonyn nhw waith penodol neu gyfrifoldeb i gario rhywbeth arbennig. Yr ARGLWYDD oedd wedi dweud hyn i gyd wrth Moses. Dyna hanes y cyfrif, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36