Numeri 26 BNET

Yr ail gyfrifiad

1 Ar ôl i'r pla orffen, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: ac wrth Eleasar fab Aaron, yr offeiriad:

2 “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad arall o bobl Israel – pawb o bob llwyth sydd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â'r fyddin.”

3 Ar y pryd roedd pobl Israel yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth ymyl Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho. A dyma Moses ac Eleasar yn dweud wrthyn nhw,

4 “Rhaid cyfrif pawb dros ugain oed.” Dyna oedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn i Moses.A dyma bobl Israel ddaeth allan o wlad yr Aifft:

Llwyth Reuben

5 O lwyth Reuben (mab hynaf Jacob) – disgynyddion Hanoch, Palw,

6 Hesron, a Carmi.

7 Cyfanswm Reuben oedd 43,730.

8 (Roedd Eliab yn un o ddisgynyddion Palw,

9 sef tad Nemwel, Dathan ac Abiram. Roedd Dathan ac Abiram gyda Cora yn arwain y bobl wnaeth droi yn erbyn Moses ac Aaron a gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD.

10 A dyma'r ddaear yn agor ac yn eu llyncu nhw a Cora. Lladdodd y tân ddau gant pum deg ohonyn nhw. Mae beth ddigwyddodd iddyn nhw yn rhybudd i ni.

11 Ond wnaeth llinach Cora ei hun ddim diflannu'n llwyr.)

Llwyth Simeon

12 O lwyth Simeon – disgynyddion Nemwel, Iamin, Iachin,

13 Serach, a Saul.

14 Cyfanswm Simeon oedd 22,200.

Llwyth Gad

15 O lwyth Gad – disgynyddion Seffon, Haggi, Shwni,

16 Osni, Eri,

17 Arod ac Areli.

18 Cyfanswm Gad oedd 40,500.

Llwyth Jwda

19 Roedd gan Jwda ddau fab, Er ac Onan, ond buodd y ddau farw yn fuan yn Canaan.

20 O lwyth Jwda – disgynyddion Shela, Perets, a Serach.

21 Ac o Perets – disgynyddion Hesron a Chamŵl.

22 Cyfanswm Jwda oedd 76,500.

Llwyth Issachar

23 O lwyth Issachar – disgynyddion Tola, Pwa,

24 Iashŵf, a Shimron.

25 Cyfanswm Issachar oedd 64,300.

Llwyth Sabulon

26 O lwyth Sabulon – disgynyddion Sered, Elon a Iachle-el.

27 Cyfanswm Sabulon oedd 60,500.

Llwythau Manasse ac Effraim

28 Roedd dau lwyth, sef Manasse ac Effraim, yn ddisgynyddion i Joseff.

29 O lwyth Manasse – disgynyddion Machir a'i fab Gilead.

30 O Gilead – disgynyddion Ieser, Chelec,

31 Asriel, Sechem,

32 Shemida a Cheffer.

33 (Doedd gan Seloffchad fab Cheffer ddim meibion, dim ond merched. Ac enwau'r merched oedd Machla, Noa, Hogla, Milca a Tirtsa.)

34 Cyfanswm Manasse oedd 52,700.

35 O lwyth Effraim – disgynyddion Shwtelach, Becher, a Tachan.

36 Ac o Shwtelach – disgynyddion Eran.

37 Cyfanswm Effraim oedd 32,500. Roedden nhw i gyd yn ddisgynyddion Joseff, drwy Manasse ac Effraim.

Llwyth Benjamin

38 O lwyth Benjamin – disgynyddion Bela, Ashbel, Achiram,

39 Sheffwffâm, a Hwffam.

40 Wedyn o feibion Bela – disgynyddion Ard a Naaman.

41 Cyfanswm Benjamin oedd 45,600.

Llwyth Dan

42 O lwyth Dan – disgynyddion Shwcham. Y Shwchamiaid oedd disgynyddion Dan,

43 a'i cyfanswm nhw oedd 64,400.

Llwyth Asher

44 O lwyth Asher – disgynyddion Imna, Ishfi, a Bereia.

45 Wedyn o feibion Bereia – disgynyddion Heber a Malciel.

46 Roedd gan Asher ferch hefyd, sef Serach.

47 Cyfanswm Asher oedd 53,400.

Llwyth Nafftali

48 O lwyth Nafftali – disgynyddion Iachtseël, Gwni,

49 Jeser, a Shilem.

50 Cyfanswm Nafftali oedd 45,400.

Crynodeb

51 Felly cyfanswm y dynion gafodd eu cyfri yn Israel oedd 601,730.

52 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

53 “Mae'r tir i gael ei rannu rhwng y llwythau ar sail y ffigyrau yma.

54 Mae'r llwythau mwyaf i gael etifeddu mwy o dir na'r llwythau lleiaf. Mae faint o dir fydd pob llwyth yn ei gael yn seiliedig ar y ffigyrau yma.

55 Rhaid defnyddio coelbren wrth rannu'r tir, ond mae canlyniadau'r cyfrifiad i gael eu defnyddio i benderfynu faint o dir mae pob llwyth yn ei gael.

56 Bydd y tir mae'r llwythau bach a mawr yn ei etifeddu yn cael ei bennu drwy daflu coelbren.”

Llwyth Lefi

57 A dyma'r Lefiaid gafodd eu cyfrif – disgynyddion Gershon, Cohath a Merari.

58 A disgynyddion eraill Lefi – y Libniaid, Hebroniaid, Machliaid, Mwshiaid a Corahiaid. Cohath oedd tad Amram,

59 ac enw gwraig Amram oedd Iochefed, merch Lefi, gafodd ei geni yn yr Aifft. Wedyn plant Amram a Iochefed oedd Aaron, Moses, a Miriam eu chwaer.

60 Roedd Aaron yn dad i Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar.

61 Ond roedd Nadab ac Abihw wedi marw wrth ddefnyddio tân o rywle arall i wneud offrwm i'r ARGLWYDD.

62 Roedd 23,000 o Lefiaid – pob dyn a bachgen oedd dros fis oed. Doedden nhw ddim wedi cael eu cyfrif gyda gweddill pobl Israel, am fod dim tir i gael ei roi iddyn nhw fel i weddill llwythau Israel.

63 Felly dyna ffigyrau'r cyfrifiad wnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad, pan oedd pobl Israel yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth ymyl Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho.

64 Doedd neb o'r dynion gafodd eu cyfrif y tro yma, wedi eu cynnwys yn y cyfrifiad cyntaf wnaeth Moses ac Aaron yn anialwch Sinai.

65 Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud, “Byddan nhw i gyd yn marw yn yr anialwch!” A doedd neb ohonyn nhw ar ôl, ar wahân i Caleb fab Jeffwnne a Josua fab Nwn.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36