Numeri 25 BNET

Pobl Israel a Baal-peor

1 Pan oedd pobl Israel yn aros yn Sittim dyma'r dynion yn dechrau cael rhyw gyda merched Moab.

2 Roedd y merched wedi eu gwahodd nhw i wyliau crefyddol eu duwiau. A dyma nhw'n gwledda gyda nhw a dechrau addoli eu duwiau.

3 Cyn pen dim roedd Israel wedi uno gyda Baal-peor. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio'n lân gyda phobl Israel,

4 a dyma fe'n dweud wrth Moses, “Rhaid i ti arestio'r rhai sydd wedi arwain y drwg yma, a'u lladd nhw o flaen yr ARGLWYDD ganol dydd, er mwyn i'r ARGLWYDD beidio bod mor wyllt gydag Israel.”

5 Felly dyma Moses yn dweud wrth arweinwyr llwythau Israel, “Rhaid i chi ddienyddio'r dynion yn eich llwyth chi sydd wedi ymuno i addoli Baal-peor.”

6 Wrth iddo ddweud hyn, a pobl Israel yn wylo a galaru o flaen y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw, dyma un o ddynion Israel yn dod ag un o ferched y Midianiaid i'r gwersyll. Gwelodd Moses a phawb y peth yn digwydd.

7 A dyma Phineas (mab Eleasar yr offeiriad, ac ŵyr Aaron) yn codi a gafael mewn gwaywffon,

8 a mynd ar ôl y dyn i'r babell. A dyma fe'n gwthio'r waywffon drwy'r ddau ohonyn nhw – drwy'r dyn ac i mewn i stumog y ferch. A dyma'r pla oedd yn lledu drwy ganol pobl Israel yn stopio.

9 Roedd 24,000 o bobl wedi marw o'r pla.

10 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

11 “Mae Phineas, mab Eleasar ac ŵyr Aaron yr offeiriad, wedi tawelu fy nig yn erbyn Israel. Dangosodd y fath sêl drosta i, wnes i ddim bwrw ymlaen i ddinistrio pobl Israel i gyd.

12 Felly dywed wrtho fy mod yn gwneud ymrwymiad o heddwch gydag e;

13 ymrwymiad mai fe a'i ddisgynyddion fydd yn offeiriaid am byth. Am ei fod wedi dangos y fath sêl dros ei Dduw, ac wedi gwneud pethau'n iawn rhwng Duw a pobl Israel.”

14 Enw'r dyn gafodd ei ladd ganddo – y dyn gafodd ei drywanu gyda'r ferch o Midian – oedd Simri fab Salw, pennaeth teulu o lwyth Simeon.

15 Ac enw'r ferch o Midian oedd Cosbi, merch Swr, pennaeth un o lwythau Midian.

16 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

17 “Dw i am i chi drin y Midianiaid fel gelynion, a'u dinistrio nhw.

18 Maen nhw wedi dod yn elynion i chi drwy eich denu chi i addoli y Baal o Peor. A hefyd drwy beth ddigwyddodd gyda Cosbi, merch un o'i tywysogion nhw gafodd ei lladd y diwrnod roedd y pla yn lledu o achos Peor.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36