Numeri 8 BNET

Gosod y Lampau

1 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

2 “Dywed wrth Aaron, ‘Pan fyddi'n gosod y lampau yn eu lle, gwna'n siŵr fod y saith lamp yn taflu eu golau o flaen y menora.’”

3 A dyma Aaron yn gwneud hynny. Dyma fe'n gosod y lampau fel eu bod yn taflu eu golau o flaen y menora, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

4 Gwaith morthwyl oedd y menora – aur wedi ei guro. Roedd yn waith morthwyl o'i goes i'w betalau. Cafodd ei wneud i'r union batrwm roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddangos i Moses.

Puro a chysegru'r Lefiaid

5 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

6 “Rwyt i gymryd y Lefiaid o blith pobl Israel a mynd trwy'r ddefod o'i puro nhw.

7 A dyma sut mae gwneud hynny: Rwyt i daenellu dŵr y puro arnyn nhw. Wedyn rhaid iddyn nhw siafio eu corff i gyd, golchi eu dillad, ac ymolchi.

8 Wedyn maen nhw i gymryd tarw ifanc, gyda'i offrwm o rawn (sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd). Yna cymryd tarw ifanc arall yn offrwm puro.

9 Wedyn rwyt i fynd â'r Lefiaid i sefyll o flaen Pabell Presenoldeb Duw, a casglu pobl Israel i gyd at ei gilydd yno.

10 Yna mae'r bobl i osod eu dwylo ar y Lefiaid tra maen nhw'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD.

11 Wedyn mae Aaron i gyflwyno'r Lefiaid i'r ARGLWYDD fel offrwm sbesial gan bobl Israel, i'w cysegru nhw i waith yr ARGLWYDD.

12 Wedyn bydd y Lefiaid yn gosod eu dwylo ar ben y ddau darw ifanc. Bydd un yn offrwm puro, a'r llall yn cael ei offrymu i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD, i wneud pethau'n iawn rhwng Duw a'r Lefiaid.

13 Yna mae'r Lefiaid i sefyll o flaen Aaron a'i feibion, i'w cyflwyno nhw'n offrwm sbesial i'r ARGLWYDD.

14 A dyna sut mae'r Lefiaid i gael eu gosod ar wahân i weddill pobl Israel. Fi fydd piau'r Lefiaid.”

15 “Bydd y Lefiaid wedyn yn mynd i wneud eu gwaith yn y Tabernacl, ar ôl cael eu puro a'i cyflwyno'n offrwm sbesial i mi.

16 Maen nhw wedi cael eu rhoi i weithio i mi yn unig. Dw i'n eu cymryd nhw yn lle meibion hynaf pobl Israel.

17 Fi piau'r meibion hynaf i gyd, a hefyd pob anifail cyntaf i gael ei eni. Ro'n i wedi eu cysegru nhw i mi fy hun pan wnes i ladd pob mab ac anifail cyntaf i gael ei eni yng ngwlad yr Aifft.

18 Ond dw i wedi cymryd y Lefiaid yn lle meibion hynaf pobl Israel.

19 A dw i wedi rhoi y Lefiaid i Aaron a'i feibion i weithio ar ran pobl Israel yn y Tabernacl. Hefyd i wneud pethau'n iawn rhwng Duw a phobl Israel, fel bod dim pla yn taro pobl Israel pan maen nhw'n mynd yn agos at y cysegr.”

20 Felly dyma Moses ac Aaron a phobl Israel i gyd yn cysegru'r Lefiaid. Dyma nhw'n gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

21 Dyma'r Lefiaid yn mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain, a golchi eu dillad. Yna dyma Aaron yn eu cyflwyno nhw yn offrwm sbesial i'r ARGLWYDD. Ac wedyn dyma fe'n mynd trwy'r ddefod o wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw â Duw, er mwyn ei puro nhw.

22 Wedi hynny, dyma'r Lefiaid yn mynd i'r Tabernacl i wneud eu gwaith, yn helpu Aaron a'i feibion. Dyma nhw'n gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

23 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

24 “Dyma fydd y drefn gyda'r Lefiaid: Maen nhw'n cael dechrau gweithio yn y Tabernacl yn ddau ddeg pump mlwydd oed,

25 a rhaid iddyn nhw ymddeol pan fyddan nhw'n bum deg oed.

26 Ar ôl ymddeol maen nhw'n cael dal i helpu'r Lefiaid eraill pan mae angen, ond fyddan nhw ddim yn gwneud y gwaith eu hunain. Dyna fydd y drefn gyda gwaith y Lefiaid.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36