18 yn casglu'r bobl i gyd at ei gilydd y diwrnod hwnnw, sef diwrnod cyntaf yr ail fis. A cafodd pawb eu cofrestru, gan nodi'r llwyth a'r teulu roedden nhw'n perthyn iddo. Cafodd pob un o'r dynion oedd dros ugain oed eu rhestru,
19 yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Digwyddodd y cyfrifiad yma yn anialwch Sinai.
20-43 A dyma'r canlyniadau, sef nifer y dynion dros ugain oed allai ymuno â'r fyddin, gan ddechrau gyda Reuben (mab hynaf Israel):Llwyth Nifer Reuben 46,500 Simeon 59,300 Gad 45,650 Jwda 74,600 Issachar 54,400 Sabulon 57,400 Yna meibion Joseff:Effraim 40,500 Manasse 32,200 Wedyn,Benjamin 35,400 Dan 62,700 Asher 41,500 Nafftali 53,400
44 Dyma niferoedd y dynion gafodd eu cyfri gan Moses, Aaron, a'r deuddeg arweinydd (pob un yn cynrychioli llwyth ei hynafiad).
45 Cawson nhw eu cyfrif yn ôl eu teuluoedd – pob un dyn oedd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â'r fyddin.
46 A'r cyfanswm oedd 603,550.
47 Ond doedd y cyfanswm yna ddim yn cynnwys y dynion o lwyth Lefi.