1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2 “Gwnewch ddau utgorn arian – gwaith morthwyl. Maen nhw i gael eu defnyddio i alw'r bobl at ei gilydd, ac i alw'r gwersyll i symud.
3 Pan mae'r ddau utgorn yn cael eu canu gyda'i gilydd bydd y bobl yn gwybod eu bod i gasglu o flaen mynedfa Pabell Presenoldeb Duw.
4 Ond os mai un utgorn sy'n canu, dim ond arweinwyr llwythau Israel sydd i ddod.
5 Pan mae un nodyn hir yn cael ei seinio, mae'r rhai sy'n gwersylla i'r dwyrain o'r Tabernacl i symud allan.
6 Wedyn pan mae nodyn hir arall yn cael ei seinio, mae'r rhai sy'n gwersylla ar yr ochr ddeheuol i'w dilyn. Y nodyn hir ydy'r arwydd eu bod i symud allan.