11 Ar ddechrau'r ail flwyddyn wedi i bobl Israel ddod allan o'r Aifft (ar yr ugeinfed diwrnod o'r ail fis) dyma'r cwmwl yn codi oddi ar dabernacl y dystiolaeth.
12 Felly dyma bobl Israel yn cychwyn ar eu taith o anialwch Sinai. Ac yn y diwedd dyma'r cwmwl yn aros yn anialwch Paran.
13 Hwn oedd y tro cyntaf iddyn nhw symud, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
14 Y llwythau oedd yn gwersylla o dan faner Jwda aeth gyntaf, adran wrth adran. Roedd adrannau llwyth Jwda dan arweiniad Nachshon fab Aminadab.
15 Wedyn roedd Nethanel fab Tswár yn arwain llwyth Issachar,
16 ac Eliab fab Chelon yn arwain llwyth Sabulon.
17 Nesaf, dyma'r Tabernacl yn cael ei dynnu i lawr. A dyma'r Gershoniaid a'r Merariaid, oedd yn cario'r Tabernacl, yn mynd allan.