20 ac Eliasaff fab Dewel yn arwain llwyth Gad.
21 Yna dyma'r Cohathiaid, oedd yn cario offer y cysegr, yn eu dilyn. (Roedd y Tabernacl i fod i gael ei godi eto cyn iddyn nhw gyrraedd.)
22 Y llwythau oedd yn gwersylla o dan faner Effraim oedd nesaf, adran wrth adran. Roedd adrannau llwyth Effraim dan arweiniad Elishama fab Amihwd.
23 Wedyn roedd Gamaliel fab Pedatswr yn arwain llwyth Manasse,
24 ac Abidan fab Gideoni yn arwain llwyth Benjamin.
25 Ac yna'n olaf, y llwythau oedd yn gwersylla o dan faner Dan. Roedd adrannau llwyth Dan dan arweiniad Achieser fab Amishadai.
26 Wedyn roedd Pagiel fab Ochran yn arwain llwyth Asher,