22 Y llwythau oedd yn gwersylla o dan faner Effraim oedd nesaf, adran wrth adran. Roedd adrannau llwyth Effraim dan arweiniad Elishama fab Amihwd.
23 Wedyn roedd Gamaliel fab Pedatswr yn arwain llwyth Manasse,
24 ac Abidan fab Gideoni yn arwain llwyth Benjamin.
25 Ac yna'n olaf, y llwythau oedd yn gwersylla o dan faner Dan. Roedd adrannau llwyth Dan dan arweiniad Achieser fab Amishadai.
26 Wedyn roedd Pagiel fab Ochran yn arwain llwyth Asher,
27 ac Achira fab Enan yn arwain llwyth Nafftali.
28 Dyna'r drefn aeth pobl Israel allan, adran wrth adran. A dyma nhw'n teithio yn eu blaenau.