5 Pan mae un nodyn hir yn cael ei seinio, mae'r rhai sy'n gwersylla i'r dwyrain o'r Tabernacl i symud allan.
6 Wedyn pan mae nodyn hir arall yn cael ei seinio, mae'r rhai sy'n gwersylla ar yr ochr ddeheuol i'w dilyn. Y nodyn hir ydy'r arwydd eu bod i symud allan.
7 Ond i alw pawb at ei gilydd rhaid canu nodau gwahanol.
8 Meibion Aaron, yr offeiriaid, sydd i ganu'r utgyrn. A dyna fydd y drefn bob amser, ar hyd y cenedlaethau.
9 Ar ôl i chi gyrraedd eich gwlad, os byddwch chi'n mynd i ryfel yn erbyn eich gelynion, rhaid seinio ffanffer ar yr utgyrn yma. Wedyn bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cofio amdanoch chi ac yn eich achub chi o afael eich gelynion.
10 “Canwch yr utgyrn hefyd ar yr adegau hynny pan fyddwch chi'n dathlu – ar y Gwyliau blynyddol ac ar ddechrau pob mis pan fyddwch chi'n cyflwyno eich offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Bydd yr utgyrn yn eich atgoffa chi i gadw'ch meddyliau ar Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.”
11 Ar ddechrau'r ail flwyddyn wedi i bobl Israel ddod allan o'r Aifft (ar yr ugeinfed diwrnod o'r ail fis) dyma'r cwmwl yn codi oddi ar dabernacl y dystiolaeth.