1 Dyma'r bobl yn dechrau cwyno fod bywyd yn galed, ac roedd yr ARGLWYDD yn flin pan glywodd nhw. Roedd e wedi gwylltio'n lân gyda nhw. A dyma dân yr ARGLWYDD yn dod ac yn dinistrio cyrion y gwersyll.
2 Roedd y bobl yn gweiddi ar Moses i'w helpu nhw. A dyma Moses yn gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dyma'r tân yn diffodd.
3 A dyma fe'n galw'r lle hwnnw yn Tabera, sef “Lle'r Llosgi”, am fod tân yr ARGLWYDD wedi eu llosgi nhw yno.
4 Roedd yna griw cymysg o bobl yn eu plith nhw yn awchu am fwyd. Roedd pobl Israel yn crïo eto, ac yn cwyno, “Pam gawn ni ddim cig i'w fwyta?”
5 Pan oedden ni yn yr Aifft roedd gynnon ni ddigonedd o bysgod i'w bwyta, a pethau fel ciwcymbyrs, melons, cennin, nionod a garlleg.
6 Ond yma does dim byd yn apelio aton ni. Y cwbl sydd gynnon ni ydy'r manna yma!