22 Hyd yn oed petaen ni'n lladd yr anifeiliaid sydd gynnon ni i gyd, fyddai hynny ddim digon! Neu'n dal yr holl bysgod sydd yn y môr! Fyddai hynny'n ddigon?”
23 A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Wyt ti'n meddwl fy mod i'n rhy wan? Cei weld ddigon buan a ydw i'n dweud y gwir!”
24 Felly dyma Moses yn mynd allan, a dweud wrth y bobl beth ddwedodd yr ARGLWYDD. A dyma fe'n casglu saith deg o'r arweinwyr a'i gosod i sefyll o gwmpas y Tabernacl.
25 A dyma'r ARGLWYDD yn dod i lawr yn y cwmwl, ac yn siarad â nhw. A dyma fe'n cymryd peth o'r Ysbryd oedd ar Moses, a'i roi ar y saith deg arweinydd. Pan ddaeth yr Ysbryd arnyn nhw dyma nhw'n proffwydo. Ond dyna oedd yr unig adeg wnaethon nhw hynny.
26 Roedd yna ddau ddyn, Eldad a Medad, oedd wedi aros yn y gwersyll. (Roedd y ddau ohonyn nhw ar restr yr arweinwyr, ond ddim wedi mynd at y Tabernacl.) A dyma'r Ysbryd yn dod arnyn nhw hefyd, a dyma nhw'n dechrau proffwydo lle roedden nhw, yn y gwersyll.
27 Dyma ddyn ifanc yn rhedeg at Moses a dweud wrtho, “Mae Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll!”
28 Felly dyma Josua fab Nwn, un o'r dynion ifanc roedd Moses wedi eu dewis i'w wasanaethu, yn dweud, “Moses, meistr! Gwna iddyn nhw stopio!”