3 A dyma fe'n galw'r lle hwnnw yn Tabera, sef “Lle'r Llosgi”, am fod tân yr ARGLWYDD wedi eu llosgi nhw yno.
4 Roedd yna griw cymysg o bobl yn eu plith nhw yn awchu am fwyd. Roedd pobl Israel yn crïo eto, ac yn cwyno, “Pam gawn ni ddim cig i'w fwyta?”
5 Pan oedden ni yn yr Aifft roedd gynnon ni ddigonedd o bysgod i'w bwyta, a pethau fel ciwcymbyrs, melons, cennin, nionod a garlleg.
6 Ond yma does dim byd yn apelio aton ni. Y cwbl sydd gynnon ni ydy'r manna yma!
7 (Roedd y manna yn edrych fel had coriander, lliw resin golau, golau.
8 Byddai'r bobl yn mynd allan i'w gasglu, ac yna'n gwneud blawd ohono gyda melinau llaw, neu drwy ei guro mewn mortar. Yna ei ferwi mewn crochan, a gwneud bara tenau ohono. Roedd yn blasu'n debyg i olew olewydd.
9 Roedd y manna'n disgyn ar lawr y gwersyll dros nos gyda'r gwlith.)