5 Pan oedden ni yn yr Aifft roedd gynnon ni ddigonedd o bysgod i'w bwyta, a pethau fel ciwcymbyrs, melons, cennin, nionod a garlleg.
6 Ond yma does dim byd yn apelio aton ni. Y cwbl sydd gynnon ni ydy'r manna yma!
7 (Roedd y manna yn edrych fel had coriander, lliw resin golau, golau.
8 Byddai'r bobl yn mynd allan i'w gasglu, ac yna'n gwneud blawd ohono gyda melinau llaw, neu drwy ei guro mewn mortar. Yna ei ferwi mewn crochan, a gwneud bara tenau ohono. Roedd yn blasu'n debyg i olew olewydd.
9 Roedd y manna'n disgyn ar lawr y gwersyll dros nos gyda'r gwlith.)
10 Dyma Moses yn clywed y bobl i gyd yn crïo tu allan i'w pebyll. Roedd yr ARGLWYDD wedi digio go iawn gyda nhw, ac roedd Moses yn gweld fod pethau'n ddrwg.
11 A dyma Moses yn gofyn i'r ARGLWYDD, “Pam wyt ti'n trin fi mor wael? Beth dw i wedi ei wneud o'i le? Mae'r bobl yma'n ormod o faich!