1 Roedd Miriam ac Aaron wedi dechrau beirniadu Moses, am ei fod wedi priodi dynes o ddwyrain Affrica (ie, dynes ddu o Affrica).
2 “Ai dim ond trwy Moses mae'r ARGLWYDD yn siarad?” medden nhw. “Ydy e ddim wedi siarad trwon ni hefyd?” Ac roedd yr ARGLWYDD wedi ei clywed nhw.
3 (Roedd Moses ei hun yn ddyn gostyngedig iawn. Doedd neb llai balch drwy'r byd i gyd.)
4 Felly dyma'r ARGLWYDD yn galw ar Moses, Aaron a Miriam: “Dw i eisiau i'r tri ohonoch chi ddod at Babell Presenoldeb Duw.” Felly dyma'r tri ohonyn nhw'n mynd.
5 A dyma'r ARGLWYDD yn dod i lawr mewn colofn o niwl o flaen mynedfa'r Tabernacl. A dyma fe'n dweud wrth Aaron a Miriam i gamu ymlaen, a dyma nhw'n gwneud hynny.