5 A dyma'r ARGLWYDD yn dod i lawr mewn colofn o niwl o flaen mynedfa'r Tabernacl. A dyma fe'n dweud wrth Aaron a Miriam i gamu ymlaen, a dyma nhw'n gwneud hynny.
6 Yna dyma fe'n dweud wrthyn nhw,“Gwrandwch yn ofalus ar beth dw i'n ddweud:Os oes proffwyd gyda chi, dw i'r ARGLWYDDyn siarad â'r person hwnnw drwy weledigaeth a breuddwyd.
7 Ond mae fy ngwas Moses yn wahanol.Dw i'n gallu ei drystio fe'n llwyr.
8 Dw i'n siarad gydag e wyneb yn wyneb –yn gwbl agored. Does dim ystyr cudd.Mae e'n gweld yr ARGLWYDD mewn ffordd unigryw.Felly pam oeddech chi mor barod i'w feirniadu?”
9 Roedd yr ARGLWYDD wedi digio go iawn gyda nhw, a dyma fe'n mynd i fwrdd.
10 Ac wrth i'r cwmwl godi oddi ar y Tabernacl, roedd croen Miriam wedi troi'n wyn gan wahanglwyf. Pan welodd Aaron y gwahanglwyf arni
11 dyma fe'n galw ar Moses, “Meistr, plîs paid cymryd yn ein herbyn ni. Dŷn ni wedi bod yn ffyliaid, ac wedi pechu!