21 Felly i ffwrdd â nhw. A dyma nhw'n archwilio'r wlad, yr holl ffordd o anialwch Sin yn y de i Rechob, wrth Fwlch Chamath yn y gogledd.
22 Wrth fynd trwy'r Negef dyma nhw'n cyrraedd Hebron. Roedd yr Achiman, y Sheshai a'r Talmai yn byw yno, sef disgynyddion Anac. (Roedd tref Hebron wedi ei hadeiladu saith mlynedd cyn Soan yn yr Aifft.)
23 Pan gyrhaeddon nhw ddyffryn Eshcol dyma nhw'n torri cangen oddi ar winwydden gyda un swp o rawnwin arni. Roedd rhaid cael dau i'w chario ar bolyn rhyngddyn nhw. A dyma nhw'n casglu pomgranadau a ffigys hefyd.
24 Roedd y lle yn cael ei alw yn ddyffryn Eshcol (sef ‛swp o rawnwin‛) o achos y swp o rawnwin roedden nhw wedi ei gymryd oddi yno.
25 Roedden nhw wedi bod yn archwilio'r wlad am bedwar deg diwrnod.
26 A dyma nhw'n mynd yn ôl i Cadesh yn anialwch Paran at Moses ac Aaron a phobl Israel. A dyma nhw'n dweud wrth y bobl beth roedden nhw wedi ei weld, ac yn dangos y ffrwyth roedden nhw wedi ei gario yn ôl.
27 Dyma nhw'n dweud wrth Moses, “Aethon ni i'r wlad lle gwnest ti'n hanfon ni. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo! A dyma beth o'i ffrwyth.