28 Ond mae'r bobl sy'n byw yno yn gryfion, ac maen nhw'n byw mewn trefi caerog mawr. Ac yn waeth na hynny, mae disgynyddion Anac yn byw yno.
29 Mae'r Amaleciaid yn byw yn y Negef, yr Hethiaid, Jebwsiaid ac Amoriaid yn byw yn y bryniau, a'r Canaaneaid yn byw ar yr arfordir ac ar lan Afon Iorddonen.”
30 Ond yna dyma Caleb yn galw ar y bobl oedd yno gyda Moses i fod yn dawel. “Gadewch i ni fynd, a chymryd y wlad! Gallwn ni ei choncro!”
31 Ond dyma'r dynion eraill oedd wedi mynd i archwilio'r wlad yn dweud, “Na, allwn ni ddim ymosod ar y bobl yno. Maen nhw'n llawer rhy gryf i ni!”
32 A dyma nhw'n rhoi adroddiad gwael i bobl Israel. “Byddwn ni'n cael ein llyncu gan bobl y wlad buon ni'n edrych arni. Mae'r bobl welon ni yno yn anferth!
33 Roedd yno gewri, sef disgynyddion Anac. Roedden ni'n teimlo'n fach fel pryfed wrth eu hymyl nhw, a dyna sut roedden nhw'n ein gweld ni hefyd!”