3 Felly dyma Moses yn eu hanfon nhw o anialwch Paran, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Roedden nhw i gyd yn arweinwyr pobl Israel.
4-15 Dyma eu henwau nhw:Enw Llwyth Shammwa fab Saccwr Reuben Shaffat fab Chori Simeon Caleb fab Jeffwnne Jwda Igal fab Joseff Issachar Hosea fab Nwn Effraim Palti fab Raffw Benjamin Gadiel fab Sodi Sabulon Gadi fab Swsi Joseff (sef Manasse) Ammiel fab Gemali Dan Sethwr fab Michael Asher Nachbi fab Foffsi Nafftali Gewel fab Machi Gad
16 Dyna enwau'r dynion anfonodd Moses i ysbïo'r wlad. Ac roedd Moses yn galw Hosea fab Nwn yn Josua.
17 Pan anfonodd Moses nhw i archwilio gwlad Canaan, dwedodd fel hyn: “Ewch i fyny drwy'r Negef, ac ymlaen i'r bryniau.
18 Edrychwch i weld sut wlad ydy hi. Ydy'r bobl yn gryf neu'n wan? Oes yna lawer ohonyn nhw, neu dim ond ychydig?
19 Sut dir ydy e? Da neu drwg? Oes gan y trefi waliau i'w hamddiffyn, neu ydyn nhw'n agored?
20 Beth am y pridd? Ydy e'n ffrwythlon neu'n wael? Oes yna fforestydd yno? Byddwch yn ddewr! Ewch yno, a dewch â peth o gynnyrch y tir yn ôl gyda chi.” (Roedd hi'r adeg o'r flwyddyn pan oedd y grawnwin aeddfed cyntaf yn cael eu casglu).