10 Erbyn hyn roedd y bobl yn bygwth lladd Josua a Caleb trwy daflu cerrig atyn nhw. Ond yna dyma ysblander yr ARGLWYDD yn dod i'r golwg uwch ben Pabell Presenoldeb Duw. (Gwelodd pobl Israel i gyd hyn.)
11 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Am faint mae'r bobl yma'n mynd i'm dirmygu i? Ydyn nhw byth yn mynd i gredu yno i, ar ôl yr holl arwyddion gwyrthiol maen nhw wedi eu gweld?
12 Dw i wedi cael digon! Dw i'n mynd i anfon haint i'w dinistrio nhw! A bydda i'n gwneud dy ddisgynyddion di yn bobl fwy a chryfach na fuon nhw erioed.”
13 A dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Ond wedyn bydd pobl yr Aifft yn clywed am y peth! Ti ddefnyddiodd dy nerth i ddod â'r bobl allan oddi wrthyn nhw.
14 Byddan nhw'n dweud am y peth wrth bobl y wlad dŷn ni'n mynd iddi. ARGLWYDD, maen nhw wedi clywed dy fod ti gyda'r bobl yma. Maen nhw'n gwybod fod y bobl yma wedi dy weld di gyda'i llygaid eu hunain, bod dy gwmwl di yn hofran uwch eu pennau, a dy fod ti'n eu harwain nhw mewn colofn o niwl yn y dydd a colofn o dân yn y nos.
15 Os gwnei di ladd y bobl yma i gyd gyda'i gilydd, bydd y gwledydd sydd wedi clywed amdanat ti'n dweud
16 ‘Doedd yr ARGLWYDD ddim yn gallu arwain y bobl i'r wlad oedd e wedi ei haddo iddyn nhw, felly dyma fe'n eu lladd nhw yn yr anialwch!’