1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2 “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi fyw ynddi,
3 byddwch yn cyflwyno offrymau i'w llosgi fydd yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD (Gall fod yn offrwm i'w losgi'n llwyr neu'n offrwm i wneud addewid, neu i ofyn am fendith yr ARGLWYDD ar ôl cyflawni'r addewid, neu'n offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol, neu yn un o'r Gwyliau penodol).
4-5 Rhaid i'r person sy'n cyflwyno'r offrwm gyflwyno offrwm o rawn gydag e. Gyda pob oen sy'n cael ei aberthu a'i losgi'n offrwm rhaid cyflwyno cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gyda litr o olew olewydd. A hefyd litr o win yn offrwm o ddiod.