11 Dyna sydd i'w gyflwyno gyda pob tarw ifanc, hwrdd, oen neu fwch gafr.
12 Rhaid gwneud hyn gyda pob anifail sy'n cael ei baratoi.
13 “‘Dyma mae unrhyw un o bobl Israel sy'n cyflwyno offrwm i'w losgi i'r ARGLWYDD i fod i'w wneud.
14 Ac mae'r mewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi – nawr neu yn y dyfodol – i wneud yr un fath wrth gyflwyno offrwm i'w losgi sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
15 Mae'r un rheol i bawb – chi sy'n Israeliaid, a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda chi. A fydd y rheol yma byth yn newid.
16 Mae'r rheol a'r drefn yr un fath i bawb – chi sy'n Israeliaid, a'r mewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi.’”
17 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: