20 Torth wedi ei gwneud o'r toes cyntaf yn cael ei chyflwyno fel yr offrwm o'r grawn cyntaf ddaeth o'r llawr dyrnu.
21 Rhaid i chi bob amser gyflwyno'r toes cyntaf yn offrwm i'r ARGLWYDD.’”
22 “Dyma sydd i ddigwydd os ydy'r gymuned gyfan yn gwneud camgymeriad, a ddim yn cadw'r rheolau mae'r ARGLWYDD wedi eu rhoi i Moses –
23 beth bynnag mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud drwy Moses hyd yn hyn, neu yn y dyfodol –
24 unrhyw gamgymeriad dydy'r gymuned ddim yn ymwybodol ei bod wedi ei wneud: Mae'r bobl gyda'i gilydd i baratoi tarw ifanc yn offrwm i'w losgi'n llwyr – un fydd yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Mae i'w gyflwyno gyda'r offrymau o rawn a diod sydd i fynd gydag e. A hefyd bwch gafr yn offrwm puro.
25 Mae'r offeiriad i wneud pethau'n iawn rhwng pobl Israel â Duw. Bydd Duw yn maddau iddyn nhw, am mai camgymeriad oedd, ac am eu bod nhw wedi dod a chyflwyno offrwm i'w losgi ac offrwm puro iddo.
26 Bydd y gymuned gyfan, pobl Israel a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda nhw, yn cael maddeuant. Roedden nhw i gyd yn gyfrifol am y camgymeriad.