29 Mae'r un rheol i bawb pan maen nhw'n gwneud camgymeriad – i chi sy'n Israeliaid, a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda chi.
30 “Ond pan mae rhywun yn tynnu'n groes yn fwriadol, ac yn enllibio'r ARGLWYDD, rhaid i'r person hwnnw gael ei dorri allan o'r gymdeithas – sdim ots os ydy e'n un o bobl Israel neu'n rhywun o'r tu allan.
31 Mae i gael ei daflu allan o'r gymdeithas, am ddirmygu beth ddwedodd yr ARGLWYDD a gwrthod gwneud beth wnaeth e orchymyn. Arno fe'i hun mae'r bai.”
32 Pan oedd pobl Israel yn yr anialwch, roedd dyn wedi cael ei ddal yn casglu coed tân ar y Saboth.
33 Dyma'r rhai wnaeth ei ddal yn mynd â'r dyn o flaen Moses ac Aaron a gweddill y bobl.
34 A dyma nhw'n ei gadw'n y ddalfa nes bydden nhw'n gwybod beth i'w wneud gydag e.
35 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Rhaid rhoi'r gosb eithaf iddo. Mae'r bobl i fynd ag e tu allan i'r gwersyll a'i ladd drwy daflu cerrig ato.”