33 Dyma'r rhai wnaeth ei ddal yn mynd â'r dyn o flaen Moses ac Aaron a gweddill y bobl.
34 A dyma nhw'n ei gadw'n y ddalfa nes bydden nhw'n gwybod beth i'w wneud gydag e.
35 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Rhaid rhoi'r gosb eithaf iddo. Mae'r bobl i fynd ag e tu allan i'r gwersyll a'i ladd drwy daflu cerrig ato.”
36 Felly dyma'r bobl yn gwneud hynny, a'i ladd gyda cherrig, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
37 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
38 “Dywed wrth bobl Israel eu bod bob amser i wneud taselau ar ymylon eu dillad, a rhwymo pob tasel gydag edau las.
39 Bydd y taselau yn eich atgoffa chi o orchmynion yr ARGLWYDD, a'ch bod i ufuddhau iddyn nhw, yn lle gwneud fel dych chi'ch hunain eisiau, a mynd eich ffordd eich hunain.