1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2 “Dw i eisiau i ti gymryd ffon gan arweinydd pob un o lwythau Israel – un deg dwy ohonyn nhw i gyd – ac ysgrifennu enw'r arweinydd ar ei ffon ei hun.
3 Ysgrifenna enw Aaron ar ffon llwyth Lefi. Bydd un ffon ar gyfer arweinydd pob llwyth.
4 Wedyn rhaid i ti osod y ffyn o flaen Arch yr ymrwymiad yn y babell lle dw i'n cyfarfod gyda ti.
5 Bydd ffon y dyn dw i'n ei ddewis yn blaguro. Dw i'n mynd i roi stop ar yr holl gwyno di-baid yma gan bobl Israel yn dy erbyn di.”
6 Felly dyma Moses yn siarad gyda phobl Israel, a dyma pob un o arweinwyr y llwythau yn rhoi ei ffon iddo – un deg dwy o ffyn i gyd. Ac roedd ffon Aaron yn un ohonyn nhw.