10 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Tyrd â ffon Aaron yn ôl i'w gosod o flaen y dystiolaeth. Bydd yn arwydd i rybuddio unrhyw un sy'n gwrthryfela. Bydd hyn yn stopio'r holl gwyno, ac yn arbed unrhyw un arall rhag marw.”
11 Felly dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
12 A dyma bobl Israel yn dweud wrth Moses, “Dŷn ni'n siŵr o farw! Mae hi ar ben arnon ni!
13 Mae unrhyw un sy'n mynd yn agos at Dabernacl yr ARGLWYDD yn siŵr o farw! Oes rhaid i ni i gyd farw?”