12 A dw i'n rhoi eu rhoddion nhw o ffrwyth cyntaf y cnydau i chi hefyd – yr olew olewydd gorau, y sudd grawnwin gorau a'r gorau o'r grawn.
13 A'r ffrwythau aeddfed cyntaf maen nhw'n eu cyflwyno i'r ARGLWYDD – chi piau nhw, ac mae pawb yn y teulu sy'n lân yn seremonïol yn cael eu bwyta.
14 Chi sy'n cael popeth sydd wedi ei gadw o'r neilltu i Dduw gan bobl Israel.
15 Chi piau'r meibion hynaf a phob anifail cyntaf i gael eu geni, sef y rhai sy'n cael eu cyflwyno i'r ARGLWYDD. Ond rhaid i'r meibion hynaf a'r anifeiliaid cyntaf gael eu prynu'n ôl gynnoch chi.
16 Maen nhw i gael eu prynu pan maen nhw'n fis oed, am bum darn arian (yn ôl mesur safonol y cysegr – sef dau ddeg gera).
17 Ond dydy'r anifail cyntaf i gael ei eni i fuwch neu ddafad neu afr ddim i gael eu prynu yn ôl. Maen nhw wedi eu cysegru i gael eu haberthu. Rhaid i'w gwaed gael ei sblasio ar yr allor, a rhaid i'r brasder gael ei losgi yn offrwm – yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
18 Ond chi sy'n cael y cig, fel dych chi'n cael cadw brest a rhan uchaf coes ôl yr offrymau sy'n cael eu chwifio.