23 Y Lefiaid sy'n cael gweithio yn y Tabernacl, a nhw fydd yn gyfrifol os gwnân nhw rywbeth o'i le. Dydy'r Lefiaid ddim i gael tir yn y wlad iddyn nhw eu hunain. Fydd y rheol yma byth yn newid.
24 Mae'r Lefiaid i gael y degymau fydd pobl Israel yn eu cyflwyno yn offrwm i'r ARGLWYDD. Dyna pam dw i'n dweud nad ydyn nhw i gael tir iddyn nhw eu hunain.”
25 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
26 “Dywed wrth y Lefiaid, ‘Pan fyddwch chi'n derbyn y degwm dw i wedi ei roi i chi gan bobl Israel, dych chi i gyflwyno un rhan o ddeg ohono yn offrwm i'r ARGLWYDD.
27 A bydd yr offrwm yma dych chi'n ei gyflwyno yn cael ei gyfri fel petai'n rawn o'r llawr dyrnu neu'n win o'r gwinwasg.
28 Rhaid i chi gyflwyno i'r ARGLWYDD un rhan o ddeg o'r degwm dych chi'n ei dderbyn gan bobl Israel. Mae'r siâr yma i gael ei roi i Aaron yr offeiriad.
29 Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi siâr o bopeth dych chi'n ei dderbyn i'r ARGLWYDD, ac mai hwnnw ydy'r darn gorau ohono.’